Pris alcohol rhad yn codi yng Nghymru

English | Cymraeg

October 2026 |

Bydd isafbris Cymru am alcohol yn codi ar 1 Hydref 2026. Beth yw arwyddocâd y newid a sut bydd e’n effeithio ar brisiau diodydd cyffredin?

Beth yw’r isafbris?

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru isafbris am alcohol yn 2020, ar sail tystiolaeth o sawl rhan o’r byd fod pris alcohol yn ddylanwad mawr ar faint mae pobl yn ei yfed a faint o niwed sy’n digwydd.

Mae’r isafbris yn gosod pris gwaelodol na chaiff neb werthu un uned o alcohol o dano. Gan fod yr isafbris yn dibynnu ar faint o unedau o alcohol sydd mewn diod, mae’n targedu’r diodydd rhataf, cryfaf, sef, yn aml, y rhai mwyaf niweidiol. 50c yr uned oedd isafbris gwreiddiol Cymru; ar 1 Hydref 2026 bydd e’n codi i 65c.

Beth am i ni edrych ar y goblygiadau i brisiau go-iawn; ac ar ba bethau eraill gallwn ni eu gwneud, ynghyd â’r isafbris, i leihau niwed?

Beth sy’n digwydd i brisiau diodydd yng Nghymru?

Dyma ychydig o enghreifftiau o effeithiau’r isafbris newydd:

  • Mae peint o gwrw neu seidr arferol yn cynnwys tua 2.5 uned o alcohol. Yn 2020 doedd hi ddim yn gyfreithlon ei werthu am lai na £1.25 (2.5 x 50c). O fis Hydref 2026 ymlaen fydd e ddim ar werth am lai na £1.63 (2.5 x 65c).
  • Mewn potelaid o win mae tua 10 uned o alcohol. Felly, £5 (10 x 50c) oedd ei phris rhataf posibl yn 2020. Mae hwnnw’n codi i £6.50 (10 x 65c).
  • Mae potelaid arferol o wisgi neu fodca yn cynnwys tua 26 uned. Yn 2020 doedd dim modd ei gwerthu am lai na £13 (26 x 50c). Bellach, fydd hi ddim ar gael am lai na £16.90 (26 x 65c).

Fydd hyn yn taro’r tafarndai?

Yn ddiamau, mae’r sector lletygarwch yn dioddef yn y blynyddoedd diwethaf. Y newyddion da yw nad yw’r isafbris yn amharu dim ar dafarndai, bwytai na gwestai – am y rheswm syml bod prisiau diodydd yn y fath lefydd eisoes yn llawer uwch na’r isafbris. Gydag isafbris o 65c, £1.63 fydd pris rhataf posibl peint yng Nghymru, a fydd gwydraid mawr o win ddim ar gael am lai na £2.15. Os buoch chi allan am noson unrhyw bryd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, go brin i chi gael diodydd rhatach na hynny!

Mae rhai wedi awgrymu bydd yr isafbris yn sbarduno mwy o bobl i fynd allan i’r dafarn, yn lle prynu alcohol o’r siopau mawrion a’i yfed gartref. Mae hynny’n anodd iawn ei brofi ond mae ymchwil ddiweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Alcohol wedi dangos bod cryn gefnogaeth ymhlith tafarnwyr i’r isafbris.

Llai o seidr rhad a chryf yn y siopau

Mae pryderon dwys a diffuant ers tro bod poteli mawr o seidr cryf a rhad yn achosi niwed difrifol i rai o’r bobl fwyaf bregus sy’n ddibynnol ar alcohol. Heb os, effaith amlycaf yr isafbris yw cael gwared ar y fath boteli o siopau Cymru. Cyn yr isafbris, roedd poteli tri-litr o seidr gyda chryfder o 7.5% ar werth am gyn lleied â £3.99. Roedd isafbris o 50c yr uned yn gwthio eu pris i fyny i £11.25, ac isafbris o 65c yn ei gynyddu i £14.63. Ar y fath brisiau, does neb eisiau eu prynu ac maen nhw wedi diflannu o’r siopau. Mae ambell seidr cryf a rhad ar gael o hyd mewn caniau hanner-litr, ond mae’r isafbris wedi gwthio prisiau’r rheini i fyny hefyd, ac y aml iawn mae seidrau eraill gyda chryfder rhwng 4% a 5% wedi cymryd eu lle ar y silffoedd. Efallai nad yw hynny’n swnio’n arbennig o bwysig, ond cam go-iawn yw e tuag at leihau niwed.

Llai o sympiau mawr ar werth am brisiau bach

Dydy deddf yr isafbris ddim yn gwahardd siopau rhag cynnig disgowntiau am brynu alcohol yn swmp – lle mae diodydd yn mynd yn rhatach po fwyaf byddwch chi’n prynu ohonyn nhw. Ond mae’n gwneud hynny’n fwy anodd, gan fod rhaid i bris unrhyw ddiod unigol beidio â disgyn o dan lefel yr isafbris. Felly, gydag isafbris o 65c, gallwch chi ddisgwyl gweld llai o siopau yn gwerthu sympiau mawr o alcohol am brisiau bach.

Mae angen mwy nag isafbris

Dull pwysig i leihau niwed yw rheoli pris alcohol. Ond fydd yr isafbris ar ei ben ei hun ddim yn datrys pob dim. Yn ogystal â gwneud alcohol rhad yn fwy anodd ei gael, mae angen i ni wneud cymorth a thriniaeth yn haws eu cael. Dyma pam rydym ni’n gweithio trwy fentrau fel ein Prosiect Golau Glas i hwyluso’r ffordd i mewn i driniaeth i fwy o bobl. A pham rydym ni’n ymdrechu trwy ein gwaith polisi ac ymgyrchu gydag eraill i sicrhau bod cymorth ar gael i bawb yn brydlon ac ymhob man.

Os ydych chi am fod yn rhan o’n hymgyrchoedd ni, gallwch ymgofrestru yma.