Asda Pink Muscat

English | Cymraeg

A review of Asda Pink Muscat

Sgôr:

1/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 110 (44 ymhob 100ml)
Sgôr: 1 o 5

Mae gwin rhosliw yn ddiod felys yn aml, ond mae’r Muscat yma yn felysach na’r rhan fwyaf. Y rheswm, yn y bôn, yw nad gwin mohono. Sudd grawnwin Muscat yw e. Diod ddymunol yr olwg yw hi, ond bydd hi’n rhy felys i blesio’r rhan fwyaf o wingarwyr. Mae digon o ddewisiadau eraill prin eu halcohol ar gael yn Asda, a basen ni’n awgrymu cael cip ar y rheini.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​