Cambala Pinot Grigio Blush

English | Cymraeg

Ein barn ar Cambala Pinot Grigio Blush.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.05%

Calorïau ymhob 100ml: 12

Crëwyd y gwin rhosliw yma o Dde Affrica o rawnwin Pinot Grigio a Pinot Noir, a chyrhaeddodd silffoedd Aldi tua chanol 2024, mewn da bryd ar gyfer y tywydd braf.

Gwin at yr haf yw hwn, yn sicr, a gorau oll ei weini wedi’i oeri’n dda ar ddiwrnod heulog. Mae’n ysgafn a ffrwythus, gydag awgrym o afalau gwyrdd yn yr adflas. Heb fod yn rhy felys, gallai fod i’r dim i chi ar gyfer partïon a phicnics yr haf. Prin yw’r gwinoedd di-alcohol sy’n well na hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​