Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 89 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Athletic Brewing All Out
English | Cymraeg
Ein Barn Ar Athletic Brewing All Out
Sgôr:
3/5
Dyma adolygiad gan ei hawdur gwadd Phil McClelland, sydd i’w gael ar ei flog diodydd di-alcohol Opening the Bottle.
Mae gan Athletic Brewing fragdai yng Nghaliffornia a Connecticut, ac maen nhw’n gwerthu eu cwrw ym mhedwar ban byd. Hyd yn hyn, buon nhw’n creu cyrfau ysgafn, a hwn yw eu cwrw du cyntaf.
Fel pob un o gyrfau Athletic, daw hwn mewn can golygus iawn, gyda golygfa liw nos sy’n gweddu i’r dim i gwrw tywyll. Mae’r cwrw ei hunan yn ddu ei liw, gyda digon o ewyn sy’n para (gan amlaf mae’r ewyn yn diflannu fel gwlith y bore ar gwrw di-alcohol). Roeddwn i’n disgwyl tipyn bach mwy o arogl, ond roeddwn i’n cael brag rhost dwfn cwrw tywyll, ynghyd ag ambell awgrym o siocled a choffi.
Yn anffodus, mae’r blas yn dipyn o siom. Mae yma flas cwrw tywyll, yn sicr: mae brag trwm a blas llosg bron, ond prin iawn yw’r nodau caramel a siocled, sy’n drueni. Mae mymryn o swigod a theimlad mwy tenau na stowt. Dwi’n rhyw feddwl mai cwrw du ar gyfer pobl sy’n hoffi cwrw melyn yw hwn: rhyw fath o “porter lite”. Mae’n gwrw diddorol heb fod yn syfrdanol ac yn brin o’r blasau mawr sydd eisiau mewn cwrw tywyll. Ar ôl i chi ei yfed e, mae’n debyg na fyddwch chi’n mynd am un arall yn syth bin, ond efallai byddwch chi am ddychwelyd ato rywbryd arall.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.