Mash Gang Lesser Evil

English | Cymraeg

Ein barn ar Mash Gang Lesser Evil.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Ydy hi’n bosibl i gwrw fod yn bwerus ac yn ddi-alcohol? Ydy wir, yn ôl tystiolaeth y cwrw nerthol yma gan Mash Gang. Fel arfer, mae cwrw du trwm fel hwn yn dibynnu ar ei gryfder alcoholaidd am ran fawr o’i flas. Rhywsut, mae hwn yn gwneud popeth mae cwrw o’r fath i fod i’w wneud, gyda chryfder o gwta 0.5%.

Yn wir, mae e bron yn feddwol, a’r aroglau a’r sawrau siocled a cheirios bron yn llethol. Os ydych chi’n hoffi’r stowtiau cryf mae bragdai fel Brew Dog a Tiny Rebel yn eu creu, dylech chi roi cynnig ar hwn. Cewch chi brofiad anodd ei gredu!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​