Big Drop Sour

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Sour

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 53 (16 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Efallai nad “sur” yw’r gair fasai’n dod i’ch meddwl wrth drafod beth sy’n gwneud cwrw da. Ond mae cwrw sur yn beth mawr ers ychydig o flynyddoedd nawr. Daw’r surni fel arfer o rywogaethau burum neilltuol, gan gael ei ddwysáu weithiau trwy ychwanegu ffrwythau awchlym fel mafon, cyrens ac eirin.

“Cwrw injan lladd gwair” yw’r disgrifiad Big Drop o hwn – am ei fod yn dda am dorri’ch syched wrth i chi dorri’ch lawnt, siŵr o fod. Yn sicr, diod hyfryd o adfywiol yw hi, a dyw hi ddim yn crychu’r geg fel rhai cyrfau surion. Yn wir, mae’n codi cwestiwn diddorol, sef beth yw’r gwahaniaeth rhwng sur a chwerw? Mae’r ‘cwrw sur’ yma’n ein hatgoffa ni’n anad dim o gwrw chwerw traddodiadol. A nid peth drwg mo hwnnw chwaith!

Fel pob un o gyrfau Big Drop, daw mewn potel hyfryd – yn yr achos yma gyda llun swynol o felin hynafol Saxtead, un o adeiladau hynotaf bro’r bragdy.

Gallwch chi byrnu cwrw Big Drop o amryw siopau, ar-lein neu yn y byd go-iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​