BrewDog Wake Up Call

English | Cymraeg

Ein barn ar BrewDog Wake Up Call.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Categori cymharol fach ymhlith cyrfau di-alcohol yw stowt a phorter, ond steil cwrw yw hi sy’n rhoi rhwydd hynt i fragwyr arbrofi â phob math o gynhwysion diddorol – coffi, siocled, fanila, ffrwythau tywyll.

Yn yr achos yma, mae BrewDog wedi dewis coffi rhost a hefyd lactos (siwgr llaeth) – cynhwysyn traddodiadol sydd wedi rhoi i ni’r term “stowt llaethog”. Gwaetha’r modd, yn ein barn ni, cwrw eithaf tenau yw hwn – nes at goffi gyda mymryn o gwrw na chwrw gyda mymryn o goffi. Braf o beth yw gweld y categori yma’n tyfu, ond fedrwn ni ddim dweud bod Wake Up Call yn debygol o fwrw Big Drop oddi ar ei orsedd fel brenin y cwrw du di-alcohol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​