FIX8 Strawberry and Basil Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar FIX8 Strawberry and Basil Kombucha

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.05

Calorïau ymhob 100ml: 1

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Prynais i hwn gan ddisgwyl cael fy siomi. Fues i erioed yn hoff dros ben o kombucha – roedd ffrind i fi wedi ei ddifetha i fi â’i kombucha cartref. Finegr byrlymus. Ych-a-fi. Ond dyw hwn ddim yn debyg i hwnnw. Mae’n osgoi’r tinc finegraidd sy’n wendid mewn ambell kombucha – yn cydio yng nghefn eich llwnc fel tsipsen soeglyd. Yn y ddiod yma, mae’r cydbwysedd yn berffaith. Mae brathiad asidig ond dyw e ddim yn ormodol.

Mae nodau melys cynnil yn cystadlu’n dda â’r miniogrwydd – mefus ac wedyn basil. Ac, O! Y basil! Roeddwn i’n cymryd pan godais i’r can mai ychwanegiad diddim fyddai’r basil – blas rhy gynnil a thipyn o gimig. Dwi’n fodlon iawn cydnabod i mi gamgymryd. Mae’r basil yn dod drwodd yn dda, yn chwarae ei ran fel perlysieuyn wrth ochr y siwgrau a’r asidau. Mae tipyn o feddwl wedi mynd i mewn i’r ddiod yma.

Os ydych chi wedi rhoi cynnig kombucha ond heb ei hoffi, rhowch gynnig ar hwn. Dwi’n awgrymu ei gyplu gyda bwydydd olewog, fel pysgod, lle byddai rhai yn cael gwin gwyn sych, i dorri drwy’r saim a dod â’r blasau allan. Wedyn, arhoswch wrth i’r basil ddod â’i flas ei hun!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​