Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 67 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Heb wamalu dim, rosé da yw hwn, a gwell o dipyn na sawl gwin pinc mwy alcoholaidd o dipyn. Os byddwch chi’n cynnal barbeciw yr haf yma, mae yna ddiodydd llawer gwaeth na hon gallwch chi eu dewis i olchi’r byrgyrs lawr y lôn goch. Mae lliw rosé da iddo a digon o’r ‘trwch’ mae gwinoedd fel arfer yn ei gael o’r alcohol ynddyn nhw. Mae hefyd fymryn yn befriog wrth gael ei dywallt, ac mae blas sitrws da sy’n torri trwy’r melystra.
Aeth ar werth yn ddiweddar yn Marks & Spencer ynghyd â gwyn o’r un fro. Maen nhw ill dau’n hanu o winllannoedd y teulu McGuigan yn Ne Cymru Newydd, sydd ymhlith rhai hynaf Awstralia. Gwinoedd gwych yr olwg ydyn nhw, ac mae’n braf gweld cynhyrchwyr yn gwneud ymdrech wirioneddol i greu diodydd llai alcoholaidd sy’n gwirioneddol ddenu’r cwsmer. Fel gyda’r gwyn, mae label y rosé yma yn cario patrwm diddorol o ddail, pili-palod a blodau sy’n ymrithio’n wyneb o edrych arno’n ddigon hir.