Hoegaarden 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Hoegaarden 0.0

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 90 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Cododd Hoegaarden dipyn o gynnwrf pan aeth ar werth ym Mhrydain am y tro cyntaf rywbryd yn yr 1990au. Roedd y rhan fwyaf ohonon ni heb weld cwrw mor gymylog, nac un oedd yn blasu o grwyn orenau a choriander. Roedd e’n dod allan o bwmp crochenwaith anferth ac yn cael ei weini mewn grwydrau chwechochrog rhyfedd. Roedd pobl braidd yn ansicr sut i ddweud ei enw Iseldireg. Ond dyw hyn i gyd wedi mennu dim ar dwf ei boblogrwydd mewn tafarnau a siopau fel ei gilydd.

Mae’r Hoegaarden Wit Blanche 0.0 yma yn dod mewn pecyn twt o bedwar can o Tesco, gyda phatrwm gwyn a glas prydferth o rai o’r perlysiau sy’n rhoi i’r cwrw ei flas neilltuol. Fydd e ddim at ddant pawb, am yr union un rhesymau nad yw Hoegaarden arferol at ddant pawb. Ond os ydych chi’n hoff o gwrw cymylog Belgaidd ac yn trio yfed ychydig llai o alcohol, efallai mai dyma’r ddiod i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​