Mikkeller Drink In The Sun

English | Cymraeg

Ein barn ar Mikkeller Drink In The Sun

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.3%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Yn 2003 roedd Mikkel Bjergsø yn athro mathemateg a ffiseg yn Copenhagen, pan ddechreuodd arbrofi â hopys, burum a brag yn ei gegin. Erbyn hyn, mae’n allforio ei gwrw i hanner cant o wledydd.

Mae ambell gwrw Mikkeler cyn gryfed â 15% alcohol ond mae’r bragdy hefyd wedi creu wyth cwrw rhwng 0% a 0.3%. Mae Drink In The Sun yn un o’r goreuon o’r teulu bach hwn o ddiodydd dirwestol. Yn ôl y disgrifiad ar y can “cwrw ŷd Americanaidd” yw e. Yn ôl ein panel profi, mae’n eithriadol flasus. Mae’n gwrw euraidd, mymryn yn gymylog, gyda mymryn o frag, a llawer o hopys ond dim gormod. Mae’n gwrw rhagorol, a dim ond 0.3% alcohol!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​