Mikkeller Beer Geek Flat White

English | Cymraeg

Ein barn ar Mikkeller Beer Geek Flat White

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Rhyw gynhwysyn bach annisgwyl yw’r peth sy’n gwneud rhai o’r cyrfau di-alcohol gorau yn arbennig. Yn yr achos yma, mae arogl coffi cryf yn syth wedi i chi agor y botel, sy’n ddigon pwerus i dybio i chi faglu’n ddiarwybod i mewn i ryw gaffi Eidalaidd.

Wrth ei thywallt, mae’r ddiod yma cyn ddued â’r frân, gyda thrwch o ewyn gwyn, nad yw’n para’n hir gwaetha’r modd. Rydym ni heb brofi ei chwaer-ddiod alcoholaidd. Mae’n debyg na fyddai’n gymhariaeth deg, gan fod gan honno gryfder sylweddol o 7.5%. Er hynny, roedd rhywbeth digon meddwol ynghylch y fersiwn dirwestol yma, o ystyried yr holl flasau eraill sydd yma. Mae deimlad hufennog iddo, ond gydag adflas rhost, chwerw na fydd at ddant pawb.

Yn ôl y sôn, sefydlwyd Bragdy Mikkeller ryw 15 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd Mikkel, athro mathemateg o Ddenmarc, arbrofi â hopys, burum a brag. Allwn ni ddim rhoi marc A serennog i’r arbrawf yma. Ond os ydych chi’n hoff o gwrw du, mae’n werth rhoi cynnig arno, yn sicr. Mae ar gael gan Drydrinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​