Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5
Fel dwedson ni, un o fragdai mwyaf diddorol y wlad yw Nirvana. A dyma un o’u cyrfau mwyaf diddorol.Fel y cwrw gwelw Tantra, diod gwbl ddi-alcohol yw hon, gan ei gwneud yn addas i’r rhai sy’n llwyr ymwrthod (am ba reswm bynnag) yn ogystal â’r rhai ohonom sydd ’mond am yfed fymryn yn fwy iachus.
Fel cyrfau eraill Nirvana, mae diwyg y botel yn gelfydd, gan ei gwahaniaethu’n glir oddi wrth gynlluniau go ddiflas rhai o gyrfau’r archfarchnadoedd, ac yn rhoi’r cwrw yma rywle yn haenau ucha’r farchnad.
Wedi’i dywallt, mae ganddo liw siocled tywyll hyfryd. Mae tamaid bach o licris yn y blas, ond y peth sy’n dod drwodd yn anad dim i ni yw Triog Du Tate & Lyle (clasur o’r gorffennol a blas a atgyfododd atgof Proustaidd am Oor Wullie i un o’n profwyr cwrw). Does yma ddim o’r chwerwder byddai rhywun yn ei ddisgwyl fel arfer mewn stowt. Os ydych am fwynhau stowt traddodiadol ond prin-ei-alcohol (er nad yn llwyr ddi-alcohol), efallai byddai Big Drop yn well dewis i chi. Os ydych chi am brofi un o’r cyrfau tywyll mwyaf dyfeisgar a gwreiddiol sydd ar gael, mynnwch botelaid o Kosmic.
O ran diddordeb, mae cysylltiad teuluol rhwng bragdai Nirvana a FitBeer, am fod prif fragwyr y naill a’r llall yn frawd a chwaer.