Nirvana London Porter

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Nirvana London Porter

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 36
Sgôr: 3.5 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tim Jenkins o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Tim ar Twitter @afbeerexplorer

Bragdy teuluol yw Nirvana, wedi’i sefydlu yn 2016 yn Nwyrain Llundain gan Becky Kean. Roedd hi’n chwilio am ddiodydd di-alcohol da i’w thad ar ôl iddo roi’r gorau i ddiota. Roedd hi am godi ei galon trwy gyflwyno iddo botelaid o gwrw di-alcohol gwirioneddol dda. Ers 2016 mae’r bragdy wedi tyfu a thyfu ac erbyn 2021 roedd ganddyn nhw gasgliad craidd o chwe chwrw. Maen nhw hefyd yn gwneud ambell gwrw achlysurol arbennig, fel hwn.

Gyda’r Porter Llundeinig yma, mae Nirvana yn mynd ôl at eu gwreiddiau, at gwrw sy’n rhan annatod o hanes dociau eu dinas. Ar y botel mae motiff adnabyddus Nirvana o gledr llaw agored, gyda lluniau o rai o adeiladaf enwog Llundain o’i gwmpas. Yn ôl y disgwyl gyda phorter, mae’r cwrw ei hunan yn tywallt gyda lliw tywyll a mymryn o ewyn tenau sy’n diflannu’n fuan. Yn ôl pob golwg, cwrw wedi’i garboneiddio yw e ac mae llawer o swigod bach yn codi trwyddo.

Mae’r arogl yn llawn brag tywyll, gydag awgrym o siocled. Mae’r teimlad yn y geg yn eithaf ysgafn ac yn brin o drwch o gymharu â rhai cyrfau du mwy modern. Yn ddiddorol, dyw’r carboneiddio sydd i’w weld yn y ddiod ddim i’w deimlo yn y geg. Mae’r blas yn llyfn iawn, tipyn bach fel stowt llaethog ond gydag awgrymiadau neis o siocled a choffi rhost. Mae’n f’atgoffa o gwrw Bonfire Stout Drop Bear ond yn llyfnach. At ei gilydd, mae’n ddiod ddymunol sy’n enghraifft dda o borter ond byddai’n fwy dymunol fyth pe bai ganddi fwy o drwch a mwy o’r blasau rhost.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​