Diodydd Straight & Narrow

English | Cymraeg

Ein barn ar Straight & Narrow Coctels.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob: Gweler isod

Sgoriau: Gweler isod

Yn swatio ar lannau Afon Hafren, yng nghanol tref hynafol yr Amwythig, cafodd cwmni diodydd Straight & Narrow ei sefydlu gan Jason Stoneham pan sylwodd ei fod yn yfed mwy yn ystod y cyfnod clo yn 2020-21 – fel digwyddodd i gymaint o bobl eraill.

“Teimlo’n dda tu fewn a tu fas” yw nod y cwmni, sy’n cynnig casgliad o ddiodydd prin-eu-calorïau ac addas i lysieuwyr a feganiaid. Mae’r casgliad yna’n cynnwys fersiynau di-alcohol o saith coctel poblogaidd:

Limoncello Spritz

Dyma ddiod wirioneddol arbennig, Mae ganddi’r lliw melyn llachar sy’n nodweddiadol o limoncello. Mae yma hefyd felystra limoncello ond wedi’i gydbwyso gan ryw finiogrwydd. Mae’n llawn haeddu sgôr o 5 allan o 5. Mae 148 calorïau ymhob potelaid, sy’n fwy na rhai o ddiodydd eraill Straight & Narrow ond llai na nifer o goctels alcoholaidd.

GON & Tonic gyda Chiwcymbr a Mintys

Un arall sy’n haeddu 5 allan o 5, a does dim ond 45 calori ymhob potelaid. Dyma ddiod wirioneddol hyfryd. Mae arogl ciwcymbr dod drwodd yn syth bin, a’r mintys yn dynn ar ei sodlau. Dyma gystadleuydd teilwng i Seedlip!

Puncho a Lemonêd

Rhywfaith o Pimms a lemonêd sydd gyda chi yma, ond heb yr alcohol, ac mae hi’n ddiod ddymunol iawn! Mae’n llawn ffrwythau’r haf gydag ychydig o berlysiau a sbeis, 5 allan o 5, a chwta 70 o galorïau ymhob potelaid.

Spritzo a Soda

Mae gan yr aperitivo byrlymus yma liw coch dwfn. Mae melystra ar y dechrau, gyda chwerwder o dano. Dyw e ddim yn hollol fel aperitivo Eidalaidd ond mae’n dda iawn er hynny. 4 allan o 5, meddwn ni. Mae ynddo ychydig mwy o galorïau na’r lleill: 175 ymhob potelaid.

GON & Tonic gydag Aeron Cymysg

Mae gan y ddiod yma arogl melys ond mae’r blas yn gytbwys rhwng melys a chwerw. At ei gilydd, diod ffrwythus ddymunol iawn, a chwta 45 o galorïau ymhob potelaid. 4 allan o 5.

GON & Tonic gyda Rhiwbob a Sinsir

Dyma ddiod hyfryd arall. Mae blas y rhiwbob ffres yn hyfryd tu hwnt, gyda’r sinsir o dano. Dyw hi ddim yn debyg iawn i jin-a-thonic ond mae hi’n neis iawn. 4 allan o 5. 48 o galorïau ymhob potelaid.

GON & Tonic Clasurol

Roedd ein panel profi yn mwynhau’r ddiod yma’n fawr ond mae hi’n fwy tebyg i lemonêd da nag i jin-a-thonic. Mae hi’n neis ond ddim mor neis â’r lleill. Rhown ni iddi sgôr o 3 allan o 5. Mae ynddi 75 o galorïau.

Related content

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​