Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 66
Sgôr: 4 o 5
Stoker’s Oat Milk Stout
English | Cymraeg
Ein Barn Ar Stoker’s Oat Milk Stout
Sgôr:
4/5
Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tim Jenkins o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Tim ar Twitter @afbeerexplorer
Bragdy bach yng Nghaeredin yw Jump Ship, gan arbenigo ar greu cwrw di-alcohol tra blasus. Hyd yn hyn, fe greon nhw gwrw melyn a dau gwrw gwelw. Dyma eu cwrw du cyntaf.
Fel ar eu caniau eraill, baneri signalau’r llynges yw thema’r can, yn yr achos yma gan ddangos y fflagiau ar gyfer y llythrennau O, M and S: am Oat Milk Stout. Peth braf yw gweld thema ddeniadol fel hon yn rhoi undod i’w casgliad o diodydd, ac mae’r can yma’n arbennig o drawiadol gyda baner felyn a choch llachar y llythyren O ar gefndir du’r can.
Yn y gwydryn, mae gan y cwrw liw du-frown tywyll iawn, ond does dim ewyn o fath yn y byd. (Mae Jump Ship yn dweud eu bod nhw’n gweithio i wella hwnna). Mae arogl siocled ac awgrym o goffi, ac mae’r ddiod yn teimlo’n llyfn iawn yn y geg. Siocled yw’r prif flas ond mae’r gorffen gyda blas rhost sy’n gadael adflas chwerw dymunol.
Trwy ddefnyddio llaeth ceirch, mae Jump Ship wedi cadw’r cwrw yn ddi-lactos ac yn figanaidd. Does dim glwten ynddo chwaith. Roeddwn i wir yn mwyhau’r ddiod yma: un o’r cyrfau du di-alcohol sydd i’w cael.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.