Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 145 (58 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Fel pob un o winoedd di-alcohol diweddaraf Tesco (gynnwys un coch ac un gwyn) mae’r rosé yma yn hanu o windy Félix Solís yn neheudir Sbaen. Mae’r cwmni’n creu gwinoedd yno ers 30 mlynedd a rhagor ac yn gyfrifol am ambell win rydych chi’n debygol o’i ’nabod yn dda.
Mae’r gwinllanwyr profiadol hyn yn tyfu eu grawnwin fwy na 1,000 metr uwchben lefel y môr, ac mae’r gwin sy’n dod ohonyn nhw yn cael ei ddad-alcoholeiddio trwy wyrth y Golofn Conau Troellog. Mae’r dechnoleg gymharol newydd hon i fod i dynnu’r alcohol allan o’r ddiod heb dynnu pob blas gyda fe.
Yn yr achos yma, mae’r conau wedi gwneud eu gwaith yn dda. Yn ein tyb ni, mae gan hwn flas ffrwythaidd braf iawn. Fel llawer rosé, mae fe braidd yn felys ond ddim yn ormodol felly. Os oes angen prawf ymarferol, gwagiwyd y botel yn eithaf buan yn ystod y profi. Felly rhaid bod rhywbeth yn hwn yn ein denu i ail-lenwi ein gwydrau. Rhoddwn sgôr o bedwar allan o bump.
O’r driawd hon gan Tesco, hwn sydd biau’r botel orau hefyd, gyda llun bach hyfryd o res o winwydd.