Seiat ddysgu ar-lein gydag Alcohol Change UK
09:30 tan 13:10, Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
Roedd seiat ddysgu ddiwethaf Alcohol Change UK ar gam-drin domestig, alcohol a thrawma – Yn y dirgel ym mis Mawrth eleni – wedi denu mwy na phedwar cant o bobl, ac roedd hi’n amlwg i ni pryd hynny fod llawer mwy ar ôl i ni i gyd ei ddysgu.
Dyna’r rheswm byddwn ni’n dod yn ôl y pwnc ar 11 Gorffennaf, er mwyn craffu’n fynylach ar y berthynas gymhleth rhwng y materion hyn, ac ystyried beth gallwn ni i gyd ei wneud i adnabod anghenion a cheisio atebion.
Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys:
- Liz Gilchrist a Gail Gilchrist, yn trafod sut gall gwasanaethu sy’n cynnig triniaeth am alcohol weithio’n ddiogel gyda dynion sy’n dreisgar at eu partneriaid
- Carie Bower o Age UK, yn ein hannog i beidio ag anwybyddu cam-drin domestig ymhith pobl hŷn
- Tina Fahm, ar wneud cymorth cam-drin domestig yn berthnasol i ferched duon a lleiafrifoedd eraill
- Mark Brooks, cadeirydd ManKind, ar gefnogi dynion sy’n wynebu cam-drin domestig
Dyma ddwedodd rhai o fynychwyr Yn y dirgel am y digwyddiad:
- “Sesiwn ragorol heddiw. Sawl siaradwr gwych, ac mor braf oedd cael ein cysylltu led-led y wlad.”
- “Sesiwn ddefnyddiol iawn yn bwrw goleuni ar y pwnc. Gwela’ i chi yn yr un nesaf!”
Bydd Craffu’n fanylach yn gyfle i chi ddyfnhau eich dealltwriaeth, creu cysylltiadau newydd, a chanfod ffyrdd newydd i leihau niwed a hybu lles.