Adfer bywydau: Lleihau niwed alcohol ac ail-greu cysylltiadau ar ôl y pandemig

English | Cymraeg

22 Medi 2021 - 23 Medi 2021
09:30 - 15:45
Cynhadledd ar-lein

Newyddion da! Os colloch chi ein cynhadledd ar-lein flynyddol ym mis Medi 2021, cewch chi glywed y cyfan nawr!

Am gwta £30, cewch chi recordiadau o 11 o gyflwyniadau gan siaradwyr arbenigol, cyfanswm o fwy na phump awr o gynnwys.

Roedd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ystyried y rhesymau mae pobl yn yfed, a gwahanol lwybrau poblogaeth amrywiol tuag at leihau niwed ac adfer cysylltiadau; ac i ddysgu gwersi’r cyfnod clo a deall sut i ymateb i heriau’r byd ar ôl y pandemig.

Pan archebwch chi, byddwn ni’n danfon atoch chi ddolen ar gyfer gwylio’r fideos fel y mynnwch chi, pryd bynnag a faint bynnag fynnwch chi!

Dyma’r cyflwyniadau gewch chi yn eich archeb:

  • Dr Lee Hogan ac aelodau Moving On In My Recovery (MOIMR): “Agosáu o bell: Cynnal cymheiriaid yn ystod y pandemig”
  • Yr Athro Katy Holloway a Martin Blakebrough: “Ar-lein, oddi-ar-lein: Darparu cefnogaeth amserol, priodol a lleol”
  • Dr Emmert Roberts: “Pawb i mewn! Beth ddysgon ni am leihau niwed alcohol trwy letya pobl ddigartref ar frys mewn gwestai?”
  • Millie Gooch: “Plant sobr y mileniwm: Newid ein syniadau am beidio ag yfed”
  • Cari Evans: “Awn i’r gwaith: Llwybrau i gyflogaeth i bobl gyda hanes o ddefnyddio sylweddau”
  • Charlotte Waite: “Adfer bywydau gyda’n gilydd: Beth os nad mwy o adnoddau a mwy o wasanaethau yw’r ateb?”
  • Hugh Davenport ac Amanda Mitchell: “Diota dan glo”
  • Dr Richard Piper: “Gweithio gartref, diota yn y gwaith?”
  • Justina Murray: “Aros gartref, aros yn ddiogel? Cefnogi teuluoedd yfwyr trwy’r cyfnod clo a’r tu hwnt”
  • Gweithwyr a gwirfoddolwyr Recovery Cymru: “Pŵer profiad: Dulliau newydd i gefnogi cymheiriaid a dymchwel rhwystrau”
  • Sohan Sahota: “Yfed cudd: Ymgodymu â phroblemau alcohol mewn cymunedau lle mae diota yn dabŵ”

Ewch draw i’n siop i fachu’r cyflwyniadau ysbrydoledig ac addysgiadol heddiw!

Archebwch nawr

Porwch drwy’r rhaglen i gael gwybod mwy.

Darllenwch y rhaglen