Dyma ein siaradwyr

English | Cymraeg

Dyma siaradwyr ein cynhadledd ddeuddydd ar-lein Adfer bywydau: Lleihau niwed alcohol ac ail-greu cysylltiadau ar ôl y pandemig.

Cynhadledd ar-lein

Dydd Mercher 22 Medi - Dydd Iau 23 Medi 2021

Siaradwyr

Ers 1998, Martin yw Prif Weithredwr Kaleidoscope, elusen sy’n cefnogi pobl mewn llawer man yng Nghymru sy’n wynebau problemau cyffuriau ac alcohol. Gyda Katy Holloway, bydd e’n sôn am wersi’r cyfnod clo i wasanaethau.
Seicolegydd a chyflwynydd radio yw Hugh. Mae e wedi rhannu ei hanes ar flog Alcohol Change UK, a gydag Amanda bydd e’n siarad am yfed yn ystod y cyfnod clo ac ymdrechu i yfed llai.
Ar ôl blynyddoedd o bartïon a phennau tost, rhoddodd Millie’r gorau i alcohol yn 2018, ac yn 2021 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf The Sober Girl Society Handbook. Bydd hi’n siarad am newid ein syniadau am beidio ag yfed
Seicolegydd clinigol, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a hyfforddwr yng Nghlwb Bocsio Amatur Llandudno yw Lee. Gydag aelodau Moving On In My Recovery, bydd e’n trafod cynnal cymheiriaid yn ystod y pandemig
Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru yw Katy. Mae hi’n gweithio ar hyn o bryd ar raglen Llywodraeth Cymru i werthuso’r isafbris am alcohol. Gyda Martin Blakebrough, bydd hi’n siarad am wersi’r pandemig.
Larry yw Prif Fentor Cymheiriaid Cyfle Cymru, gan dynnu ar ei brofiadau ei hunan er mwyn helpu dwsinau o bobl i oresgyn problemau camddefnyddio sylweddau ac afiechyd meddwl a dychwelyd i fyd y gwaith. Yn 2018 cafodd ei enwi yn “Fentor Gorau” rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop yng Nghymru.
Andrew yw Cyfarwyddwr Alcohol Change UK yng Nghymru ac mae’n arwain gwaith yr elusen yng Nghymru ers 2009. Ymhlith ei brif ddiddordebau proffesiynol mae addasu gwasanaethau er mwyn eu gwneud yn fwy croesawgar i fwy o bobl, a datblygu cymunedol fel modd i leihau niwed alcohol. Bydd e’n cadeirio’r gynhadledd.
Arweinydd côr yw Amanda. Bydd hi’n ymuno â Hugh er mwyn siarad am yfed yn ystod y cyfnod clo ac ymdrechu i yfed llai.
Justina yw Prif Weithredwr Teuluoedd yr Alban yn Wynebu Effeithiau Alcohol a Chyffuriau, gan weithio i dynnu sylw at waith cudd teuluoedd pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Bydd hi’n rhannu profiadau’r teuluoedd hyn yn ystod y cyfnod clo, ac yn trafod sut i’w cefnogi yn y dyfodol.
Richard yw Prif Weithredwr Alcohol Change UK, un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Cymalwst Cronig y Plant ac yn wirfoddolwr gyda Gwerin y Coed. Bydd e’n siarad am sut mae gweithio gartref wedi newid yfed yn y gwaith.
Cormac yw Rheolwr-Gyfarwyddwr Nurture Development ac yn lladmerydd brwd dros Ddatblygu Cymunedol ar Sail Adnoddau (ABCD). Mae e wedi hyfforddi pobl mewn dulliau ABCD ym mhedwar ban byd a bydd e’n sôn am ail-greu cysylltiadau cymdeithasol ar ôl Covid-19.
Seiciatrydd ac academydd yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac Ymddiriedolaeth NHS De Llundain ac Ysbyty Maudsley yw Emmert. Bydd e’n sôn am beth y gellir ei ddysgu o’r rhaglen i letya pobl ddigartref ar frys yn ystod y pandemig.
Sohan yw Rheolwr-Gyfarwyddwr BAC-IN, gwasanaeth alcohol a chyffuriau yn Nottingham ar gyfer unigolion a theuluoedd o gymunedau ethnig lleiafrifol. Cafodd BAC-IN ei sefydlu yn 2003 gan dri o bobl gyda phrofiad o’r fath broblemau, ac mae’n tyfu’n gyson oddi ar hynny. Bydd Sohan yn siarad am sut i ymgodymu â phroblemau alcohol mewn cymunedau lle mae diota yn dabŵ diwylliannol neu grefyddol.
Sarah yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Recovery Cymru, elusen sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sydd am oresgyn problemau sylweddau. Bydd hi ac eraill o Recovery Cymru yn siarad am bŵer profiad a dulliau newydd i gefnogi cymheiriaid a dymchwel rhwystrau.
Cafodd Charlotte ei hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol a bu’n gweithio i Solas Cymru a Chanolfan Cymru ar gyfer Profiadau Niweidiol Plentyndod Wales, cyn ymuno â Phlatfform. Bydd hi’n gofyn y cwestiwn pryfoclyd, beth os nad mwy o adnoddau a mwy o wasanaethau yw’r ateb?

Cadwch eich tocynnau heddiw!

Cadwch le nawr