Guinness Draft 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Guinness Draft 0.0

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 75 (17 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Sgrifennon ni adolygiad o’r cwrw yma yn gyntaf yn 2020 pan gafodd ei lansio. Oherwydd ychydig o drafferthion yn y ffatri, doedd e ddim ar gael wedyn am amser maith. Mae e bellach yn ôl ar y silffoedd. Felly dyma ni yn rhoi cynnig arall arno.

Gallwn ni’n ddweud yn hyderus fod hwn yn un o’r cyrfau di-alcohol gorau sydd. Wrth gwrs, os nad yw Guinness arferol at eich dant, fyddwch chi ddim yn hoffi hwn chwaith. Ond dyna’r pwynt, mewn ffordd, sef ei bod hi’n bur anodd gweld y gwahaniaeth rhwng hwn ar 0.0% a Guinness ar ei gryfder arferol o 4.2%. Yn syth ar ôl ei agor, mae arogl digamsyniol Guinness yn codi o’r can. Mae ganddo fe’r lliw nodweddiadol trwchus a thywyll, gyda thrwch o ewyn hufennog ar ei ben. Ac mae’n blasu fel Guinness. Does dim byd yma i gwyno amdano.

Roedd yr hen hysbysebion Cymraeg yn honni mai “Guinness yw gwin y gwan”. Mae’r hen chwedl ei fod yn cynnwys symiau gwyrthiol o haearn wedi’i hen chwalu erbyn hyn. Fydd Guinness ddim yn rhoi nerth i chi. Ond fydd y Guinness 0.0% yma ddim yn rhoi cur pen i chi yn bore chwaith!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​