Torres Natureo Rosado

English | Cymraeg

Ein barn ar Torres Natureo Rosado

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 60 (180 ymhob potel)
Sgôr: 4 o 5

Lansiwyd Torres Natureo Rosado yn 2013 ynghyd â’r coch. Maen nhw ill dau wedi colli eu halcohol diolch i ddewiniaeth y Golofn Conau Troellog, sydd i fod yn ddull mwy addfwyn i ddadalcoholeiddio gwin.

Yn ein tyb ni, mae hwn yn gwynto fel mefus, sydd wastad yn ddechrau da! Mae ganddo liw rosé da hefyd. Os rhywbeth mae hwn braidd yn rhy sych am rosé, ond dyw hwnnw ddim o reidrwydd yn beth drwg o ystyried faint o’i gystadleuwyr sy’n dioddef o felystra gormodol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​