McGuigan Zero Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar McGuigan Zero Sauvignon Blanc

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Mae’r gwinllanwyr McGuigan o Dde Cymru Newydd wedi hen ennill eu plwyf fel gwneuthurwyr rhai o winoedd mwyaf poblogaidd y byd. Yn 2019 lansion nhw eu casgliad Zero, er mwyn cynnig “gwin cytbwys gyda blasau ffrwythus mawr, ond gyda’r alcohol wedi’i dynnu allan”.

Mae’r Sauvignon Blanc di-alcohol yma yn ddiod ddymunol, adfywiol, ond dyw e ddim yn debyg iawn i Sauvignon Blanc. Byddwn ni wastad yn annog ein darllenwyr i brofi diodydd drostyn nhw eu hunain, ond os ydych chi’n chwilio am rywbeth gyda blas Sauvignon Blanc da, efallai bydd rhaid i chi chwilio ymhellach.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​