Jörg Geiger ViSecco mit Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Jörg Geiger ViSecco mit Sauvignon Blanc.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 30

Gwin di-alcohol rhagorol.

Afalau yw prif gynhwysion llawer o ddiodydd Manufaktur Jörg Geiger yn neheudir yr Almaen. Mae awgrym o afalau a gellyg yn hon, ond gwin di-alcohol yw hi yn y bôn.

Roedd ein panel profi wrth eu bodd efo’r ddiod felys a blodeuog yma, sy’n rhoi i chi flas gwin yn ogystal â llwyth o nodau ffrwythus a pheraidd eraill.

Ym marn un o’r panel, dyma “un o’r gwinoedd di-alcohol gorau” gawson nhw erioed. Roedd un arall yn gallu dychmygu “ei yfed mewn gwydryn ffansi”. Os ydych chi ar drywydd gwin di-alcohol da sy’n blasu fel gwin, dylech chi roi cynnig ar hwn!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​