Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae mesur yr isafbris wedi gosod pris gwaelodol na chaiff neb werthu diod alcoholaidd am lai na hwnnw. Mae’r isafbris wedi’i seilio ar faint o alcohol sydd ymhob diod, ni waeth os yw’n gwrw, seidr, gwin, gwirod neu unrhyw ddiod alcoholaidd arall. Pum deg ceiniog am bob uned o alcohol yw’r isafbris yng Nghymru. Deg mililitr (dwy lond llwy de) o alcohol pur yw un uned. Er mwyn dangos sut mae’n gweithio, dyma ychydig o enghreifftiau o’r byd go-iawn:
Isafbris am alcohol yng Nghymru – beth mae angen i chi ei wybod?
English | Cymraeg
Ar 2 Mawrth 2020, roedd newid mawr yn rheolau gwerthu alcohol Cymru, gyda chyflwyno isafbris am alcohol. Efallai eich bod chi wedi sylwi ar newidiadau mewn rhai prisiau ond yn ansicr pam mae hynny wedi digwydd a beth yw ei oblygiadau i chi. Yma, byddwn ni’n ceisio bwrw tipyn o oleuni ar y mater.
Beth yw’r isafbris am alcohol?
- Mae peint o gwrw neu seidr arferol yn cynnwys tua 2.5 uned o alcohol, felly ni ellir ei werthu yng Nghymru am lai na £1.25 (2.5 x 50c)
- Mewn potelaid o win mae tua 10 uned o alcohol, felly £5 (10 x 50c) yw ei phris isaf posibl
- Mae potelaid o wisgi neu fodca yn cynnwys tua 26 uned, felly fydd hi ddim ar werth bellach o dan £13 (26 x 50c)
Pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn?
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 1,500 o bobl yn marw am resymau sy’n ymwneud ag alcohol, sef un ymhob 20 marwolaeth. Ar unrhyw adeg, mae tuag un ymhob 10 o bobl sy’n aros yn ysbytai Cymru yn ddibynnol ar alcohol. Mae helyntion sy’n deillio o oryfed yn rhoi cryn faich ar y gwasanaeth brys ac ar gynghorau lleol.
Mae swmp o dystiolaeth o bedwar ban byd fod rheoli pris alcohol yn un o’r ffyrdd gorau i wneud i’r rhai sy’n yfed yn drwm yfed llai. Mae’r bobl sy’n yfed yn drymaf yn tueddu i fynd am y diodydd rhataf, ac dyna’r diodydd mae’r isafbris yn eu targedu.
Beth mae hyn wedi’i wneud i brisiau’r diodydd dwi’n eu prynu?
‘Seidr gwyn’ – y seidr rhad a chryf sydd ar werth yn aml mewn poteli plastig mawr – yw’r ddiod mae ei phris wedi codi fwyaf. Mae prisiau rhai o’r seidrau hyn wedi dyblu a rhagor ac mae’n bosibl bydd rhain ohonyn nhw yn diflannu o’r silffoedd mewn mannau. Mae’n llawer mwy anodd hefyd i siopau gynnig gwirodydd ar ddisgownt. Er enghraifft, roedd modd prynu potelaid 750ml o fodca, wisgi neu jin am gyn lleied â £10. Mae’r pris yna wedi codi i £13 o leiaf.
Roedd y rhan fwyaf o winoedd poblogaidd eisoes ar werth yn y siopau am fwy na 50c yr uned. Felly, doedd dim rhaid i’w prisiau nhw newid. Ond roedd prisiau rhai gwinoedd mewn siopau disgownt yn gorfod codi rywfaint. Mae disgowntiau am brynu swmp o win – fel 25% oddi ar bris chwe photelaid – yn methu parhau os ydyn nhw’n dod â’r pris o dan 50c yr uned.
Roedd y mathau mwyaf poblogaidd o gwrw hefyd ar werth, fel arfer, uwchben lefel yr isafbris pan oedden nhw ar werth fel caniau unigol neu becynnau bach. Ond pan oedd siopau yn cynnig disgowntiau mawr am brynu sawl slabyn, roedd hynny weithiau’n tynnu’r pris i lawr o dan 50c yr uned. Mae rhai o’r disgowntiau hyn am brynu llawer o gwrw, felly, wedi dod i ben.
Mae prisiau rhai caniau o’r cwrw a’r seidr rhataf dan frandiau’r archfarchnadoedd – fel Asda Pilsner a Sainsbury’s Depot No. 90 – wedi codi, ac mae’n debyg mai dyna’r prif le bydd rhai yfwyr cymedrol yn sylwi ar effeithiau’r isafbris.
Mae hi eisoes yn galed ar y tafarndai. Rhaid fod hyn yn gwneud pethau’n waeth fyth iddyn nhw
Mae tafarndai yn gwerthu eu diodydd am lawer mwy na 50c yr uned ers tro byd. Felly, dyw’r isafbris ddim wedi codi prisiau wrth y bar. Er enghraifft, yn ôl rheolau’r isafbris, chewch chi ddim prynu peint o gwrw am lai na £1.25 neu wydraid mawr o win am lai na thua £1.65. Fe welwch chi yn syth nad oes yr un dafarn yn gwerthu diodydd mor rhad â hynny. Yn wir, mae rhai tafarnwyr yn dweud eu bod nhw’n croesawu’r isafbris gan ei fod yn lleihau’r bwlch rhwng prisiau tafarndai a rhai’r siopau.
Oni fydd codi prisiau yn llenwi coffrau’r siopau mawr?
Mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau alcohol a’r siopau mawr wedi bod yn erbyn yr isafbris, sy’n awgrymu eu bod nhw’n poeni bydd e’n bwrw eu proffidi. Mae tystiolaeth o bedwar ban byd yn dangos bod pobl yn prynu llai alcohol wrth i’r pris godi, ac rydyn ni’n hyderus mai dyna fydd yn digwydd yng Nghymru.