Lleihau niwed alcohol yng Nghymru yn ystod y pandemig ac wedyn

English | Cymraeg

8 Mawrth 2021

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (1.23Mb)

Cyflwyniad

Ym mis Mawrth 2021, ymunodd Alcohol Change UK ag Adfam, Barod, CAIS, Kaleidoscope a WCADA er mwyn annog ymgeiswyr ar gyfer Senedd Cymru i ymroi i osod seiliau dyfodol iach wedi’r pandemig. Gofynasom i ymgeiswyr pob plaid:

  • Gwneud yn glir bod lleihau niwed alcohol yn flaenoriaeth, trwy adnewyddu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer ymdrin â chamddefnyddio sylweddau, a neilltuo digon o adnoddau er mwyn ei wireddu trwy gydol tymor nesaf y Senedd o 2021 hyd 2026
  • Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bobl â phroblemau alcohol, yn rhwydd, yn ddiogel ac yn lleol, heb warth na chywilydd
  • Cadw’r gefnogaeth o bell i deuluoedd yfwyr a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod clo, ac anelu at ailddechrau cefnogaeth wyneb-yn-wyneb tu allan i’r tŷ cyn gynted ag y bydd yn ddiogel.

Cewch chi fwy o fanylion am y cynigion hyn, a’r syniadau sy’n sail iddynt, yn ein dogfen bolisi fer Gosod seiliau dyfodol iach, ar gael trwy’r ddolen uchod.