Gofal piau hi: Prosiect gan Alcohol Concern Cymru ar y cyd â NewLink Wales i helpu gofalwyr di-dâl i osgoi problemau ag alcohol

English | Cymraeg

19 Mai 2014

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (0.69Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae tua 350,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ac mae’r cyfanswm hwn yn debygol o dyfu wrth i’r boblogaeth heneiddio, a chyda thwf afiechydon cronig. Yn ôl Cyngor Gofal Cymru, teuluoedd, ffrindiau a chymdogion sy’n darparu 96% o’r gofal i bobl fregus yng Nghymru, a hynny’n ddi-dâl; ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod 90,000 o bobl yng Nghymru yn rhoi mwy na 50 awr o ofal di-dâl yr wythnos yn rheolaidd, sef llawer mwy nag wythnos waith arferol. Yn y bôn, mae llawer o ofalwyr “yn y gwaith” yn eu cartrefi eu hunain 24 awr y dydd, heb fawr ddim amser rhydd na rhyddid personol. Straen, unigedd a gorweithio yw’r norm i nifer sylweddol ohonynt.

Cadarnhaodd ymchwil gan Alcohol Concern yn 2012 ar y cyd â gwasanaethau lleol y sector gwirfoddol i ofalwyr yng Nghymru fod gofalwyr yn wynebu pwysau sylweddol a pharhaol o ganlyniad i’w gwaith gofalu, a bod tuag un o bob pump ohonynt yn dweud eu bod yn defnyddio alcohol er mwyn ymdopi â’r pwysau hyn. Er y gall alcohol fod yn ffordd bleserus a chymharol ddiniwed i ymlacio a chymdeithasu, mae ei ddefnyddio i reoli straen yn gallu bod yn beryglus, gan arwain at batrymau yfed niweidiol.

Mae goryfed parhaol yn gallu effeithio’n ddifrifol ar iechyd y corff a’r meddwl; ac er bod rhai ohonom yn defnyddio alcohol yn ffordd i ymdopi, gall danseilio ein gallu i ymdopi yn y pen draw. Yn cyd-fynd â hyn, mae beichiau gwaith gofalu yn aml yn golygu nad yw gofalwyr yn teimlo y gallant geisio cymorth am broblemau alcohol – naill ai gan fod eu sylw i gyd yn mynd i’r sawl y maent yn gofalu amdano, neu am nad oes ganddynt mo’r amser. Roedd hefyd yn amlwg o’n hymchwil ni fod gofalwyr yn gyndyn i ddefnyddio gwasanaethau alcohol arferol, a hynny am nifer o resymau.

Mynd i’r afael â’r holl faterion hyn oedd nod y prosiect hwn – gan wella’n sylweddol y cymorth a’r wybodaeth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru, er mwyn eu helpu i ddeall mwy am alcohol, rheoli eu harferion yfed, ac osgoi problemau ag alcohol. Gwnaethom hyn yn bennaf drwy hyfforddi staff gwasanaethau lleol y sector gwirfoddol i ofalwyr i ddarparu cymorth addas, perthnasol, a hawdd ei gael, gan gydnabod anghenion ac amgylchiadau penodol gofalwyr. Awgrymodd ein hymchwil fod llawer o ofalwyr yn ymddiried yn gryf yn y gwasanaethau gwirfoddol hyn ac, yn aml, yn dibynnu arnynt hwy yn hytrach na gwasanaethau statudol.