Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
13 Ebrill 2015
Cyflwyniad
“...mae angen i’r diwydiant diodydd, archfarchnadoedd, tafarndai a chlybiau weithio gyda’r llywodraeth fel y daw yfed cyfrifol yn wirionedd yn hytrach na geiriau gwag.” Y Prif Weinidog David Cameron
Mae alcohol yn ffactor o bwys mewn llawer o afiechydon a marwolaethau cynamserol y gellid eu hosgoi. Bob blwyddyn mae tua miliwn o dderbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn Lloegr. ac yn 2013 roedd mwy na 8,000 o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig yn deillio o alcohol. Mae’n cyfrannu at fwy na 60 o glefydau, gan gynnwys clefyd yr iau a chanser y fron, ac mae’n cael ei nodi fel ffactor mewn mwy na hanner o droseddau treisgar.
Er ei fod yn sylwedd gwenwynig sy’n gallu achosi cryn niwed, mae alcohol wedi dod yn rhan o’n bywydau a’n cymdeithas. Mae llawer ohonom yn ei yfed bob wythnos, ac weithiau bob dydd; caiff ei werthu wrth ymyl bwydydd fel bara a llaeth; ac mae’n fwy cyfarwydd i lawer o blant ifanc na brandiau hufen iâ a chreision. Prin yw’r rhai ohonom sy’n ein hystyried ein hunain yn ‘ddiotwyr mawr’ – dangosodd arolwg yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, er enghraifft, fod y rhan fwyafrif o’r rhain sy’n yfed yn ormodol yn eu gweld eu hunain yn yfwyr ‘cymedrol’. Er hynny, mae yfed a meddwi yn aml yn cael eu hystyried yn elfennau hanfodol mewn noson dda, yn ffordd i gymdeithasu, dathlu, lleddfu gofidiau, ymlacio a chael hwyl.
Wrth wraidd y disgwyliadau positif hyn am effeithiau alcohol, yn rhannol, y mae’r dulliau y caiff y ddiod gadarn ei marchnata. Mae marchnatwyr yn cyflwyno yfed alcohol fel gweithgaredd cyffrous, deniadol neu anturus, gan osgoi pob sôn am ganlyniadau niweidiol diota, neu’r pethau eraill y gellid eu mwynhau yn ei le. Mae pobl ym Mhrydain yn cytuno nad yw’r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd yn llwyddo i’w diogelu rhag hysbysebu o’r fath. Nid oes ryfedd am hynny o gofio bod tystiolaeth o ddogfennau mewnol y diwydiant fod rhai cwmnïau alcohol yn ymdrechu i geisio cynnwys themâu sydd wedi’u gwahardd yn eu deunyddiau marchnata.
Mae hysbysebion yn cyflwyno alcohol yn rhan ddeniadol, ddi-drafferth o’n bywyd beunyddiol, ac mae pobl ifanc yn arbennig o agored i’r negeseuon hyn, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn dangos arwyddion o broblemau alcohol. Mae hysbysebion o’r fath yn llunio eu hagweddau, eu syniadau a’u disgwyliadau am ddefnyddio alcohol, sy’n dylanwadu wedyn ar eu penderfyniad i yfed neu beidio.