Dros y siop i gyd: sut mae archfarchnadoedd yn gosod nwyddau er mwyn gwerthu mwy o alcohol i ni

English | Cymraeg

2 Mawrth 2020

Crynodeb

Bellach, arfer cyffredin yw e i archfarchnadoedd arddangos a hyrwyddo alcohol ym mron i bob rhan o’u siopau. Mae ymchwil gan Alcohol Change UK wedi canfod archfarchnadoedd yng Nghymru yn arddangos alcohol wrth ynedfeydd siopau, pennau eiliau bwyd, wrth y mannau talu, ac wrth ochr nwyddau eraill gan gynnwys cynnyrch i blant.

O ystyried y rhan bwysig mae archfarchnadoedd yn ei chwarae o ran dylanwadu ar ymddygiad cwsmeriaid sy’n prynu alcohol, dylai Llywodraeth Cymru edrych eto ar sut mae’r manwerthwyr hyn yn arddangos ac yn hyrwyddo alcohol yn eu siopau. Dylid ymchwilio i sut y gellid rhoi mesurau ar waith sydd eisoes wedi’u mabwysiadu mewn gwledydd eraill, fel yr Alban, gan gyfyngu’r alcohol sydd ar werth i un rhan o’r siop.

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (3.31Mb)