Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
8 Medi 2014
Crynodeb gweithredol
Er gwaethaf ei honiadau cyson nad yw o fudd iddo ein perswadio ni i yfed mwy o alcohol, mae dogfennau’r diwydiant diodydd yn dangos yn eglur mai dyna un o’i brif amacanion. Mae hyn yn wir am farchanadoedd alcohol aeddfed Ewrop a Gogledd America, ac yn wirach fyth am y gwledydd y mae SAB Miller yn eu disgrifio fel “marchnadoedd sy’n datblygu...[lle] y mae faint y mae pobl yn ei yfed ar gyfartaledd yn dal i godi wrth i incymau gynyddu” – sef yn Affrica, Asia ac America Ladin. Yn y marchnadoedd newydd hollbwysig hyn, mae gan y diwydiant strategaeth ddeublyg o wneud rhai diodydd yn digon rhad i bawb ond y tlotaf eu fforddio, ac ar yr un pryd hyrwyddo eu diodydd drutaf fel arwyddion o statws i’r dosbarth canol newydd.
Er mwyn creu cyfleoedd iddo wneud hyn, mae’r diwydiant wedi dadlau dros gyn lleied o reoleiddio â phosibl gan lywodraethau, ac wedi gweithio hyd yn oed i ddymchwel rheolau y mae llywodraethau cenedlaethol wedi’u creu er mwyn diogelwch cyhoeddus. Ynghyd â hyn, mae’r diwydiant yn diffinio ei gyfrifoldebau ei hunan i atal camddefnyddio ei gynnyrch yn y modd culaf posibl, gan roi pwyslais mawr ar ddyletswydd cwsmeriaid i yfed yn gyfrifol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n codi yn yr adroddiad hwn, mae Alcohol Concern yn argymell cymryd y camau canlynol yn y wlad hon, ac yn awgrymu bod yr egwyddorion yma’n berthnasol i sawl gwlad arall hefyd.
Argymhelliad 1
Dylid rheoleiddio hyrwyddo alcohol yn statudol ac yn annibynnol ar y diwydiant alcohol, a dylai fod cosbau ystyrlon am dorri’r rheolau.
Argymhelliad 2
Lle y caniatéir hyrwyddo alcohol, ni ddylai negeseuon na delweddau ond cyfeirio at nodweddion y cynnyrch: ei darddiad, ei gynhwysion, ei gryfder, a’r dull cynhyrchu. Dylid gwahardd defnyddio delweddau sy’n dangos yfed fel rhan o ffordd o fyw neu achlysur cymdeithasol.
Argymhelliad 3
O ystyried y gwrthdaro amlwg rhwng angen y diwydiant alcohol i hybu defnyddio alcohol a’r angen i hybu yfed cymedrol, ni ddylai fod gan gynhyrchwyr alcohol ran mewn llunio gwybodaeth na pholisïau yngly ^n â defnyddio eu cynnyrch yn ddiogel. Dylai negeseuon am ddefnyddio alcohol yn ddiogel gael eu creu gan gorff sy’n annibynnol ar y diwydiant, a dylent fod yn ffeithiol eu natur ac osgoi cysyniadau amwys fel “yfed yn gyfrifol”.