Small Beer Dark Lager

English | Cymraeg

A review of Small Beer Dark Lager

Sgôr:

5/5

Cryfder: 1%
Calorïau ymhob potelaid: 49 (14 per 100ml)
Sgôr: 5 out of 5

Wedi’i sefydlu yn 2016, mae’r Small Beer Company yn dilyn hen draddodiad y “cwrw bach” o’r dyddiau pan nad oedd dŵr glân ar gael i bawb. Hyd at yr 1800au, roedd hi’n eithaf cyffredin i deuluoedd, gweithfeydd, ac ysgolion hyd yn oed, fragu cwrw gwan iawn ar gyfer ei yfed yn ystod y dydd. Yn nhyb y Small Beer Co., roedd hi’n heb bryd adfywio’r traddodiad.

Ymhlith diodydd y cwmni mae’r lager du yma. “Cwrw melyn” yw’r term Cymraeg arferol am lager, a lliw euraidd byddwn ni’n ei ddisgwyl. Ond nid oedd lager wastad yn felyn. Yn yr Oesoedd Canol yn yr Almaen, lle roedd cryn fri ar Schwarzbier: yn llythrennol “cwrw du”. Mae’r cwrw du yma yn hanu Bermondsey yn hytrach na Bafaria, ond basai fe’n llawn haeddu lle yn yr Oktoberfest. Mae ganddo arogl stowt dymunol a blas chwerw, miniog gyda awgrym o goffi a siocled, a theimlad trwchus yn y geg. Cwrw bach sy’n cynnig blasau mawr!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​