Cryfder: 0.5
Calorïau ymhob 100ml: dim gwybodaeth
Mae Bristol Beer Factory yn un o’r bragdai mwyaf cŵl, mewn un o ddinasoedd cwliaf Lloegr. Mae’n eglur eu bod nhw’n ymfalchïo yn eu bro, ac mae map o strydoedd Bryste yn gefndir i ddiwyg llawr o’u caniau.
Maen nhw hefyd yn arloeswyr cwrw prin-ei-alcohol, gan lansio eu cwrw gwelw Clear Head yn 2020. Mae eu Milk Stout ar 4.5% ar gael mewn tafarndai o Hull i Hwlffordd, ac mae e bellach ar gael gyda chryfder o 0.5%. Cwrw du neilltuol iawn yw hwn, a fydd e ddim at ddant pawb. Mae’n drwm ac yn llwythog â blasau coffi a siocled tywyll. Mae e bron yn fyglyd, efallai. Dyma ddiod i’w llymeitian a’i mwyhau’n araf. Os ydych chi ar drywydd cwrw cymhleth ac annisgwyl, dyma un i chi.