Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: dim gwybodaeth
Bragdy bach lleol sy’n graddol ennill enw mawr yw Exeter Brewery. Wedi’i sefydlu yn 2003, maen nhw’n bragu mewn adeilad hanesyddol ger glannau hyfryd Afon Wysg yn Nyfnaint. Dechreuon nhw mewn meicro-fragdy yn Ngwarchodfa Natur Corsydd Exminster, ac i nodi hynny, mae llun bach o gambig ar bob potel a chan – aderyn sy’n wedi dod yn symbol o gadwraeth natur.
Hyd y gwyddom ni, dyma eu cwrw prin-ei-alcohol cyntaf, ac mae e’n un da. Mae’r bragwyr yn awgrymu ei “dywyll yn galed” yn syth i waelod gwydryn, a dyna’r ffordd orau, mae’n debyg, i gael trwch o ewyn. Mae ganddo fe flas siocledus braf ac mae’n llai chwerw nag ambell gwrw du arall – os ydych chi ddim yn yfed stowt fel arfer, gallai hwn fod yn lle da i ddechrau’r daith i’r ochr dywyll!
Mae Darkness wedi’i greu â hopys a grawn organig ac mae’n addas i feganiaid.