Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 23 (76 per 100ml)
Sgôr: 4 out of 5
Adnam’s Wild Wave
English | Cymraeg
Ein barn ar Adnam’s Wild Wave
Sgôr:
4/5
Am gwrw da mae Adnam’s yn adnabyddus. Ydyn nhw hefyd yn gwybod sut i wneud seidr da? Mae’r ateb yn dibynnu, wrth gwrs, ar eich barn chi ar beth sy’n gwneud unrhyw seidr yn un da.
Crëwyd y seidr yma o afalau bwyta a rhai chwerw-felys o fro’r Moelfryniau, ochr draw i Henffordd. Mae’n weddol sicr, felly, y bydd e’n rhy felys i garedigion seidr traddodiadol. Nid diod gymhleth mohoni, a chawson ni ddim o’r “don wyllt o flasau” mae’r broliant yn ei addo. Seidr syml, ysgafn a blasus yw e yn y bôn.
Daw mewn can gwych ar thema glan-y-môr, gyda thon fawr o ddŵr ar siâp sleisen o afal. Gan gyfeirio’n ffraeth at eu lleoliad ar arfordir mwyaf dwyreiniol Lloegr, mae’r bragwyr yn awgrymu ei yfed “ar dymheredd Môr y Gogledd”.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.