M&S Classic Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Classic Cider.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 30

Mae’r seidr yma wedi’i greu ar gyfer M&S gan Sheppy’s yng Ngwlad-yr-Haf, cwmni sydd wedi ennill enw da am wneud seidr o safon, gan gynnwys rhai prin-eu-halcohol.

Mae’n anodd gwybod ai dyma’r union un ddiod â’r seidr 0.5% mae Sheppy’s yn ei werthu o dan ei label eu hun. Os nad felly, mae’r ddwy ddiod yn agos iawn at ei gilydd, a’r ddwy’n haeddu sgôr o 5 allan o 5. Dyma seidr euraidd a ffres, heb fod yn rhy felys, ac sy’n cyd-fynd yn dda iawn gyda chinio gwerinwr traddodiadol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​