Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
English | Cymraeg
Ein barn ar Red Zero.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Cwmni cymharol newydd ym myd seidr yw Sandford Orchards yn Nyfnaint, wedi’i sefydlu yn 2002. Cynnig seidrau “hawdd mynd atyn nhw” yw eu nod, gan ddefnyddio dwsinau o fathau o afalau o ffermydd lleol i greu amrywiaeth o ddiodydd .
Lansion nhw eu seidr prin-ei-alcohol cyntaf yn 2024. Mae ganddo liw euraidd dwfn. Mae e fymryn yn fwy melys nag ambell seidr arall ar y tudalennau yma, ac mae mymryn o garamel i’r blas. Os ydych chi’n hoff o seidr traddodiadol, ond nid rhai rhy sur, bydd hwn at eich dant. Braf ei weld yn cyrraedd y silffoedd!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.