Almave Ámbar a Blanco

English | Cymraeg

Ein barn ar Almave Ámbar a Blanco.

Sgôr:

4/5

Calorïau ymhob 100ml: 33 a 13

ABV: llai na 0.5%

Rydym ni, yma yn Alcohol Change UK, wrth ein bodd gyda diod gyda thipyn o hanes iddi. Ac mae hanes y ddwy yma yn ddifyr tu hwnt.

Mae Almave Ámbar ac Almave Blanco yn ffrwyth cywaith rhwng Syr Lewis Hamilton – Pencampwr Fformiwla Un y Byd ar saith achlysur – ac Iván Saldaña – Pendistyllwr o ardal Altos de Jalisco ym Mecsico, sef bro’r tecila.

Fel dyn sydd wedi ennill ei fywoliaeth trwy yrru’n chwim, daeth Syr Lewis yn adnabyddus am gymedroldeb o ran alcohol. O ganlyniad, aeth e ati i greu gwirod agafe glas gyda holl flas tecila ond heb ddim o’r alcohol.

Mae piñas yr agafe yn cael eu medi, eu coginio a’u stwnsio, cyn cael eu distyllu er mwyn dal y blas a’i ddwysáu. Dwy ddiod wirionedd ddiddorol yw’r canlyniad – wedi’u cyflwyno’n gampus mewn poteli unigryw. Yn ddi-os, dylech chi ystyried eu hychwanegu at eich casgliad o gynhwysion coctels.

Mae gan Almave Blanco liw tryloyw, euraidd braidd, arogl tecila da, ac adflas sbeisiog. Mae Almave Ámbar, wrth gwrs, yn ambr ei lliw. Gan ganddi lai o arogl na’r Blanco ond blas dyfnach. Fel llawer o wirodydd di-alcohol, maen nhw ar eu gorau wedi’u cymysgu. Rhoddon ni gynnig arnyn nhw gyda sudd leim ffres a surop croen oren, mewn gwydrau gyda halen ar yr ymyl – gyda chanlyniadau dymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​