Yma o Hyd

English | Cymraeg

Cymysgedd hudolus o hopys, brag, a ffrwythau

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 11

Wrth i fwy a mwy o gyrfau di-alcohol gyrraedd y farchnad, pleser ar y naw yw cael gafael ar gwrw newydd gwirioneddol diddorol.

Mae’n anodd rhoi bys ar beth yn union yw’r holl flasau yma, ond mae cymysgedd hudolus o hopys, brag, a ffrwythau. Mae iddo liw euraidd a digon o fywiogrwydd. Yn ein barn ni, byddai’n cyd-fynd yn berffaith gyda chinio gwerinwr.

Mae’r cwrw wedi’i enwi, wrth gwrs, ar ôl cân Dafydd Iwan o 1982, a ddaeth yn hynod boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf ymhlith cefnogwyr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Yn cyd-fynd â hyn, mae diwyg y can wedi’i seilio ar hetiau bwced streipiog sydd mor hoff gan gefnogwyr y tîm.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​