Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 16
English | Cymraeg
Blasau sitrws a phupur sy'n gwneud y ddiod yma fymryn yn wahanol
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 16
Cwmni newydd o Fro Morgannwg yw Dirwest. Mae’r enw yn cydnabod gyda winc bach hanes Cymru o ddirwestwyr capelgar yn gwgu ar arferion diota pobl eraill. Amcan y cwmni yw gwneud ymwrthod yn brofiad difyr yn hytrach nag un diflas a sych-dduwiol.
Mae’r farchnad jin ddi-alcohol yn un eithaf llawn erbyn hyn, ac mae angen rhywbeth arbennig er mwyn gwahaniaethu diod oddi wrth y lleill. Mae hon yn cynnig meryw a choriander, sy’n eithaf cyffredin mewn jin, ond mae yma hefyd flasau sitrws a phupur, a dyna sy’n gwneud y gwahaniaeth – y pupur yn enwedig.
Mae diwyg y botel hefyd yn bur unigryw, gyda’i lliw gwyn a’r llun modern iawn o fenyw yn yr hen Wisg Gymreig.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.