Artis Chardonnay

English | Cymraeg

Barn ar Artis Chardonnay

Sgôr:

3/5

ABV: less than 0.5%
Calories per 250ml glass: 50 (20 per 100ml)
Score: 3 out of 5

Mae gwinoedd Artis yn dod o ardal Languedoc-Roussillon yn ne Ffrainc, sy’n swnio fel dechrau da i win.

Cawson ni hwn ar werth yn Sainsbury’s. Dyw’r adolygiadau ar wefan y siop ddim wedi bod yn arbennig o dda, ond yn ein barn ni mae’n ddiod ddigon dymunol. Mae e’n eithaf gwelw am Chardonnay a mymryn yn rhy felys, ond mae ganddo wynt gwin gwyn da gydag awgrym o dderw, ac adflas derw sy’n aros yn hir. Os oeddech chi’n hoff o’r gwinoedd Chardonnay trwmlwythog o dderw oedd mor boblogaidd yn yr 1990au, efallai bydd y ddiod yma yn ddewis di-alcohol da i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​