Cambala Chardonnay

English | Cymraeg

Ein barn ar Cambala Chardonnay.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.05%

Calorïau per 100ml: 12

Mae’r Chardonnay di-alcohol yma gan Aldi yn dangos yn glir sut mae’r siopau disgownt yn cystadlu â gwerthwyr drutach ar eu tir eu hun, sef ansawdd y cynnyrch. Am ychydig llai na £3 y botel, dyma fargen o ddiod, ond mae’r blas llawn cystal â diodydd sydd ar werth am brisiau uwch mewn siopau eraill.

Mae hi’n ysgafn a ffrwythus gydag adflas miniog braf. Yr unig beth sy’n absennol yw’r blas derw a ddaeth yn nodweddiadol o Chardonnay – ond nid oedd hwnnw at ddant pawb ’ta waeth.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​