Athletic Brewing Upside Dawn

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Athletic Brewing Upside Dawn

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 47 (14 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd NoLo Beverage, sy’n amcanu at adolygu cymaint o ddiodydd di-alcohol ag sy’n bosibl!

Mae’r Athletic Brewing Co yn un o arloeswyr amlycaf y genhedlaeth newydd o fragwyr cwrw crefftus di-alcohol, ac mae eu cyrfau nhw yn rhai da! Ers 2017 maen nhw wrthi’n creu casgliad campus o gyrfau di-alcohol digyfaddawd. Fel byddech chi’n ei ddisgwyl o enw’r cwmni, mae Athletic Brewing yn amcanu at fod yn fragwyr sy’n effeithio er gwell ar iechyd, ffitrwydd a hapusrwydd eu cwsmeriaid. Yn yr adolygiad yma, byddwn ni’n ystyried eu cwrw euraidd, di-alcohol, di-glwten a figanaidd, Upside Dawn.

A ninnau’n byw yn oes y cwrw crefftus, mae dod o hyd i gwrw gwelw di-alcohol yn hawdd – bron yn rhy hawdd – ond mae cwrw euraidd di-alcohol da yn brinnach o dipyn. Wrth ei dywallt, mae Upside Dawn yn ddiod gymylog ac iddi liw gwellt tywyll ac ewyn tenau. Dechrau da! Ond yr hyn sy’n wirioneddol drawiadol am y cwrw yma yw’r arogl. Yn ôl yr olwg, fe allai fod yn lager heb ei ffiltro, ond mae ganddo arogl unigryw: miniog, sbeisiog, a llawn ffrwythau a hopys. Diddorol iawn! Ac mae ganddo flas rhagorol, gyda brathiad llawn hopys tebyg i Nanny State gan Brewdog ond yn llawer gwell a heb adflas chwerw.

At ei gilydd, mae Athletic Brewing wedi creu cwrw gwirioneddol dda. Mewn marchnad sydd dan ei sang â chyrfau gwelw, maen nhw wedi cynhyrchu cwrw euraidd llawn hopys sy’n sicr o ennill ei blwyf. Mae gan Upside Dawn broffil blas cryf ond mae’n dal i fod yn adfywiol a glân. Yn bwysicaf oll, mae’n gwbl ddi-alcohol ac does dim angen alcohol arno!

Mae Athletic Brewing wedi dewis pecynnu eu diod fel llawer o fragwyr crefftus: mewn can alwminiwm plaen gyda label ludiog. Mae’n ddiwyg sydd at fy nant, gan gryfhau’r naws “grefftus”. Mae’r label yn lân, glir ac unigryw ac yn ddrych o’r cwrw tu fewn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​