Our Future is Golden

English | Cymraeg

Ein barn ar Our Future is Golden.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth

Mae bragdy Low Tide yn hanu o ddinas ffasiynol Caerfaddon ac yn enwog am ganiau cofiadwy yr olwg. Ond er mor rhyfeddol yw’r can yma, gyda llun o octopws anferth yn suddo llong, mae’r ddiod tu fewn yn un go hen-ffasiwn. Dyma gwrw euraidd Seisnig traddodiadol – diod ysgafn a chwerw sy’n berffaith ar gyfer ei llymeitian yn yr haf. Os ydych chi am wneud cymhariaeth, y ddiod arall sydd agosaf ati yw St Peter’s Without Gold. Cewch chi roi cynnig ar y ddau a dewis eich ffefryn!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​