Sierra Nevada Trail Pass Golden

English | Cymraeg

Ein barn ar Sierra Nevada Trail Pass Golden, cwrw di-alcohol hawdd ei yfed.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 95

Mae Sierra Nevada yn un o brif fragdai crefftus annibynnol yr Unol Daleithiau, a buon nhw ar dipyn o daith. Yn ôl y sôn, roedd cyrfau di-alcohol yr Almaen yn gwneud y fath argraff ar Ken Grossman – sylfaenydd Sierra Nevada – wrth ymweld â’r Oktoberfest yn 2018 nes iddo fynd yn syth ôl i America a’i fryd ar greu ei gwrw di-alcohol ei hun.

Ar ôl ychydig rhagor o flynyddoedd o ymchwil ac arbrofi, dyma Trail Pass Golden – diod gyda “llond milltiroedd o flas”, yn ôl y bragdy. Ydyn nhw’n iawn? Wel, os ydych chi’n hoffi cwrw sy’n eich taro’n galed â llond hopran o hopys, nid dyma’r ddiod i chi. Ar y llaw arall, os yw cwrw hawdd ei yfed gyda digon o frag at eich dant, byddwch chi’n mwynhau hwn. Fel llawer o gyrfau di-alcohol, does dim llawer o ewyn ac mae’r blas ychydig felys, ond at ei gilydd, dyma gwrw da.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​