Beavertown Astro-Naught

English | Cymraeg

Ein barn ar Beavertown Astro-Naught.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)

Mae Bragdy Beavertown yn eistedd ar lannau Afon Lea (enw sydd, o bosib, yn dod o’r Gymraeg ‘llif’) yn Llundain. Maen nhw’n adnabyddus am gwrw a chaniau creadigol ar thema sgerbydau yn y gofod – a dyw hwn ddim yn eithriad.

Cwrw bywiog yw e, gyda digon o ewyn, a lliw mymryn y gymylog wedi ei dywallt. Chwerwder yw’r prif flas, gydag awgrym o felystra ffrwythus. Mae’n llawn hopys ac yn debygol o apelio’n fwy i garedigion cwrw crefftus na’r rhai sy’n yfed lager fel arfer.

Astro-Naught yw ail gwrw dirwestol Beavertown, ar ôl eu cwrw gwelw Lazer Crush. Fel y rhan fwyaf o gyrfau ysgafn, mae e ar ei orau wedi’i oeri’n dda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​