Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 20
English | Cymraeg
Ein barn ar Estrella Damm 0.0.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 20
Mae’r amrywiaeth o gwrw melyn di-alcohol sydd ar gael yn tyfu o hyd, a’r safon yn codi’r un modd.
Sefydlodd August Kuentzmann Damm ei fragdy ym Marcelona yn 1876, wedi iddo ffoi o’i fro yn Alsace oherwydd y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Mae’n debyg mai dewis doeth oedd hwn iddo, gan i’w gwmni Estrella Damm ddod yn un llewyrchus a phoblogaidd yn ei ddinas newydd.
Cyrhaeddodd Estrella Damm 0.0 silffoedd siopau Prydain yn 2025, wrth i’r cynhyrchwyr ymateb i’r alwad gynyddol gan gwsmeriaid am gwrw llai alcoholaidd. Dyma gwrw sy’n llawn brag ond hefyd yn ysgafn, ac wedi’i oeri’n dda mae’n braf tu hwnt. Mae e hefyd wedi’i gyflwyno’n dda mewn can trwsiadus sy’n cyfleu’r neges mai diod o safon yw hon. Os yw cwrw melyn at eich dant, ewch amdani!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.