Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 25
English | Cymraeg
Ein barn ar Kingston Golden Pils.
Sgôr:
5/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 25
Gwaith pen-bragwr o’r Unol Daleithiau – Grant Wood – yw’r cwrw yma, ond mae wedi ei enwi ar ôl tref mebyd sylfaenydd y bragdy – yr actor Tom Holland – sef Kingston ar lannau Afon Tafwys .
Dyma gwrw melyn cytbwys braf. Mae fymryn yn felysach nag ambell un arall – fel Lucky Saint, er enghraifft. Felly, os nad yw chwerwder at eich dant, mae’n bosibl bydd hwn i’r dim i chi.
Fel pob un o ddiodydd Bero, mae hon wedi’i phecynnu’n gelfydd, mewn lliwiau aur a gwyrdd, gyda llun bach o bysgod, yn deyrnged i’r tri eog ar arfbais Kingston.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.