Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
English | Cymraeg
Ein barn ar Ben Lomond Botanical Spirit.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Y wirod berlysieuol yma yw mentr gyntaf distyllfa Ben Lomond yn y farchnad ddiodydd dirwestol, gan gynnig fersiwn di-alcohol o’u jin Albanaidd.
Cafodd ei lansio yn 2024 yn ystod y 152fed Bencampwriaeth Golff Agored yng Nghlwb Golff Royal Troon ar arfordir gorllewinol yr Alban. Y cwestiwn, felly, yn ieithwedd y golffiwr yw, ydy hi’n sgorio’n well neu’n waeth na safon?
Rhaid dweud yn gyntaf oll nad yw’n blasu’n debyg iawn i jin – ond nid peth drwg yw hynny o reidrwydd. Diod gymhleth, aeddfed yw hon. Mae yma chwerwder sy’n dod o aeron gwyllt lleol ac yn rhoi rhyw fin i’r ddiod, sy’n cael ei chydbwyso yn ei dro gan felystra cyrens duon. Yn wir, mae sawl math o flasau diddorol o dan y ffrwythau, gan gynnwys gwres cyrn pupur coch.
Mae’r botel yn hardd hefyd, sy’n cryfhau’r teimlad mai diod o safon yw hwn. Diod braf iawn!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.