Caleño Pineapple Piña Colada

English | Cymraeg

Ein barn ar Caleño Pineapple Piña Colada

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob can: 113

Lansiwyd gwirodydd Caleño yn gyntaf oll yn 2018, wedi i sefydlydd y cwmni, Ellie Webb o Fryste, ddiflasu ar y diffyg dewisiadau di-alcohol da wrth gymdeithasu. Mae Caleño Light and Zesty a Dark and Spicy ar gael fel poteleidiau o wirodydd pur i chi eu cymysgu eich hun, ac yn 2023 ychwanegwyd dau goctel parod mewn caniau: y Piña Colada yma, a hefyd Passion Fruit Martini.

Fel pob un o ddiodydd Caleño, mae hon wedi’i phecynnu’n drawiadol, gyda thalpiau mawr o liwiau cryf. Mae gan y ddiod ei hun arlliw melyn naturiol – sy’n awgrymu nad oes yma ddim cynhwysion artiffisial. At ei gilydd, dyma goctel hyfryd iawn, gyda holl flas a theimlad piña colada da – pîn-afal, cnau coco, a mymryn o frathiad. I’r dim i’r haf!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​