Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20
A dweud y gwir, fe gawson ni’r ddiod yma o’r blaen, wrth ymweld yn 2022 â Bwyty’r Clink ar dir Carchar Caerdydd – tŷ bwyta campus sydd bellach wedi cau, gwaetha’r modd. Pan welsom ni hi eto yn Sainsbury’s yn 2026, roeddem ni’n tybio ei bod yn haeddu adolygiad go-iawn.
Efallai eich bod chi’n meddwl nad yw Virgin Mary mewn can yn swnio’n ddeniadol iawn. Oes yma fwy na llond tun o sudd tomatos? Oes, wir! Am un peth, mae’r tomatos yn rhai ffres. At hynny, mae hefyd olifau, pupurau poeth, tamarind, garlleg, caprys, Saws Caerwrangon figanaidd, a rhagor. Gyda hyn i gyd, go brin byddwch chi’n sylwi ar absenoldeb y fodca.
Ar y can mae jôc weledol fach, sef y Bloody Mary wreiddio – Mari Tudur – gyda’r gwallt wedi’i weddnewid yn domato.